Councillor Corner

Y Cynghorydd Gareth Morgan / Councillor Gareth Morgan


Ardal Llantwit a Mera

Ganwyd a fy magwyd yng Nghastell Nedd ac yr wyf wedi byw yn y dre ar cyffiniau am nifer o flynyddoedd. Ers 2014 yr wyf yn byw yn Gnoll Drive yng nghanol y dref.

Mae wedi bod yn fraint i wasanaethu fel cynghorydd Tref Castell Nedd am y chwe mlynedd diwethaf ac yr wyf yn ddiolchgar iawn i drigolion Llantwit a Mera am eu cefnogaeth wrth i mi ddychwelyd am gyfnod arall ar Gyngor Tref Castell Nedd.

Fel Cynghorydd yr wyf wedi gweithio gydag eraill i gadw gwariant o fewn ffiniau pendant yn yr hinsawdd ariannol anodd.

Am nifer o flynyddoedd roeddwn yn gweithio fel athro ac yr wyf nawr yn gweithio fel Swyddog Maes Rhanbarthol i undeb yr athrawon UCAC.

Yn fy oriau hamdden wyn mwynhau rhedeg yn fawr. Wy hefyd yn gefnogwr brwd o Glwb Rygbi Castell Nedd a Clwb Pêl Droed Abertawe. Wyn mwynhau ymweld â pharc y Gnoll yn reolaidd ac yn awyddus i hybur defnydd gan holl drigolion yr ardal.

Wy hefyd yn gefnogol i ddigwyddiadau diwylliannol yn Neuadd Y Gwyn a Theatr Fach Castell Nedd ac yn frwd i gefnogi digwyddiadau lleol fel yr Wyl Bwyd a Diod a Gwyl Gomedi Castell Nedd.

Fel Cynghorydd Y Dref, yr wyf wedi cyd drefnu, cefnogi a chyfrannu at ddigwyddiadau Cyngor Tref Castell Nedd megis Yr Wyl yn y Parc a dathliadau goleuadaur Nadolig.

Mae Castell Nedd yn haeddu tref fywiog, diogel a phleserus, yn rhydd o ddigwyddiadau gwrth gymdeithasol ac wrth i ni edrych ir dyfodol yn dilyn blynyddoedd arbennig o heriol, byddaf yn parhau i gydweithio ag eraill i wella ansawdd bywyd trigolion y dref.

Mae trigolion Castell Nedd yn haeddu strydoedd taclus, di-sbwriel a dylair trigolion fwynhau cyfleusterau lleol, yn cynnwys parcio lleol digonol a chanol y dref syn ffynnu ac yn denu amrywiaeth o fusnesau.

Yr wyf yn addo brwydro dros holl drigolion yr ardal, i wrando ar eich gofidion, i sefyll dros ein cymuned ac eich gwasanaethau hyd gorau fy ngallu, er mwyn gwella Castell Nedd.

Llantwit and Merra Ward

I was born and brought up in Neath, where I have lived most of my adult life. I have been living in Gnoll Drive for the last 9 years.

It has been my privilege to serve as a Neath Town Councillor for the last 6 years and I am very grateful to the people of Llantwit and Mera for their support in returning me for another period on Neath Town Council.

As a Councillor I have worked well with others to keep spending within strict limits in these financially difficult times.

I was a teacher for many years and I am now employed as a regional officer for the trade union UCAC.

In my spare time, I am a keen jogger and a supporter of Neath Rugby Club and Swansea City Football Club. A regular visitor to the Gnoll Park , I am keen to promote the use of the park for all residents of the area.

I am also a supporter of events at The Gwyn Hall and Neath Little Theatre and I am also supportive of locally organised initiatives such as the Food and Drink Festival and the Neath Comedy Festival.

As a Town Councillor, I have also helped organise , actively supported and participated in Neath Town Council events such as Party in the Park and the Christmas Lights celebration.

Neath deserves a vibrant, safe and pleasant town Centre, free from anti social behaviour, and as we look to the future after some extremely challenging years, I will continue to work tirelessly with others to improve the life of residents.

Neath residents deserve to live in well maintained and litter free streets and to enjoy local amenities, including adequate local parking and a thriving town centre which attracts a variety of businesses.

I pledge to work for all the residents of the area, to listen to your concerns ,to stand up for our community and to serve you to the best of my ability, to provide a better Neath.